Aeron y griafolen gyffredin

Mallwyd 1798, ac mae’r Parch Richard Warner o Gaerfaddon yn cerdded yn hamddenol tua’r pentref.

Yn ei lyfr A Second Walk Through Wales mae Warner yn sôn am y trwch o goed criafol ar fryniau Meirionnydd, rhaid bod 1798 yn flwyddyn debyg iawn i eleni.

Sonia hefyd am y ddiod feddwol a wnaed o’r aeron cochion, tybed ydy’r arferiad hwnnw’n parhau? Go brin.

Go brin ychwaith byddai’r teithiwr cyfoes yn gweld criw o grymffastiau’r pentref yn ffraeo tros lond het o aeron criafol, cymodi, a bwyta’r cyfan yn awchus.

Rhaid bod Warner yn cofio geiriau Paul ac mae’n cofnodi bod yr aeron yn “harsh and acrid”, a’r ddiod, “… still worse, sharp, bitter, and thick as puddle”.

O ran tegwch i Warner mae gweddill ei ddisgrifiad o gyffiniau Mallwyd yn hynod garedig.

Mae’n  ymserchu yn y rhaeadrau a’r creigiau, y tai gwyngalchog a’u gerddi cymen a’r eglwys fach a’i thŵr ‘gwylaidd’.

Cymhara’r cyfan i harddwch yr Alpau a thiroedd dedwydd Sicily, ond efallai ei fod wedi mynd dros ben llestri braidd wrth ddychmygu Horace a Cicero yn troedio’r tir ac yn telynegu fel yntau.

Gyda llaw, mae sôn am yr Alpau yn fy atgoffa bod fy nghyfaill Heinz Schenk o Awstria yn gwneud ambell botelaid o schnapps efo aeron criafol, ‘Vogelbeere’ ydy enw’r ddiod honno, sef diod aeron yr adar.

Aeron y griafolen gyffredin, Sorbus aucuparia ydy’r aeron sydd wedi bod yn cochi’r wlad eleni. Cerddinen ydy’r enw cyffredin arni yn y de ac mae’n un o’r harddaf o’n coed cynhenid.

Er nad oes ganddi hirhoedledd ac urddas y dderwen mi fyddai cefn gwlad dipyn tlotach heb ei hewyn o flodau a gwreichion o aeron.

Cefn gwlad sylwer, mae angen gardd go helaeth cyn meddwl am blannu Sorbus aucuparia.

Gwell i’r garddwr ddewis un o’r coed criafol addurniadol, ac un o’r goreuon ydy Sorbus cashmiriana.

Fel mae’r enw’n awgrymu, gorllewin yr Himalaya ydy cynefin naturiol y goeden yma.

Blodeua’n hael o binc neu wyn yn y gwanwyn ac mae’r aeron sy’n dilyn yn creu rhagor o ddiddordeb yn eu tymor.

Ceir gwawr binc ar yr aeron ifanc cyn eu bod yn cannu’n glaerwyn wrth aeddfedu.

Rhinwedd nodedig Sorbus cashmiriana ydy ei bod yn dal ei gafael yn yr aeron gwynion ymhell wedi cwymp y dail.

Dewis da arall ydy Sorbus ‘Joseph Rock’. Canghennau talsyth ydy’r nodwedd amlycaf o ran siâp y goeden yma sy’n golygu bod digon o le wrth ei thraed, peth i’w ganmol mewn gardd fechan.

Mae’n nodedig am ei lliw hydrefol, ceir coch, oren, copr a phorffor ymhlith ei dail. Daw’r aeron yn sypiau trymion sy’n newid o felyn hufennog i oren felyn wrth aeddfedu ac mae’r rhain eto’n aros ar y goeden wedi cwymp y dail.

Credir mai o China daeth Sorbus ‘Joseph Rock’ er bod elfen o ddirgelwch ynglŷn â’i hunion darddiad.

Treuliodd Joseph Rock ran o’i oes yn casglu planhigion yn China ac mae’n bur debyg mai dyna ei chynefin naturiol.

Awstriad oedd Joseph Rock, ac efallai’n wir fod gan yr Awstriaid ymdeimlad arbennig tuag at y pren criafol.

Dywed fy nghyfaill Heinz ei bod yn bryd gwneud schnapps pan ellir gwasgu tri diferyn o sudd o’r aeron cochion. Daliwch sylw tua Mallwyd.

You May Also Like