Amlinellu uchelgais i Gymru fod yn wlad sy’n flaenllaw ym maes ynni glân

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwladol, wedi rhoi amlinelliad heddiw o’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio llai o ynni yng Nghymru, ac i symud oddi wrth ei chysylltiadau traddodiadol â thanwyddau fosil i wlad sy’n amlwg am ei hynni glân.

Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau datganoledig i gymeryd mantais o’r cyfleoedd niferus sydd gan Gymru i symud tuag at economi carbon isel.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Mae Cymru yn arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig drwy edrych sut y gallwn ddefnyddio rheoliadau adeiladu i godi tai newydd sy’n rhatach i’w rhedeg;
  • Cefnogi diwydiannau sy’n defnyddio llawer o  ynni i ddod yn fwy effeithiol;
  • Sicrhau bod Cymru yn sicrhau manteision gweddnewidiol o brosiectau ynni mawr fel Wylfa Newydd a Morlyn Llanw Bae Abertawe;
  • Buddsoddi mewn prosiectau sy’n defnyddio ynni yn effeithiol, fel Nyth, cynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n lleihau yr allyriadau sy’n gysylltiedig â gwresogi tra hefyd yn lleihau biliau ynni i ddefnyddwyr ac yn helpu pobl i fod yn gynnes ac yn iach;
  • Cefnogi’r broses o roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio pŵer glo, y dull mwyaf llygredig o gynhyrchu ynni yng Nghymru, erbyn 2025, a defnyddio pwerau cynllunio i gyfyngu ar nifer y datblygiadau glo newydd;
  • Gosod targedau uchelgeisiol a realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni yn y gymuned.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi prosiectau ynni carbon isel yng Nghymru, er enghraifft, yn rhoi cyllid hanfodol i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol fel cynllun Ynni Cymunedol Awel Aman Tawe yn Abertawe, ond hoffai wneud hyd yn oed mwy.

Defnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad heddiw i nodi ei rhwystredigaeth ynghylch y cyfyngu a achoswyd gan bolisïau ynni Llywodraeth Prydain.

Meddai Lesley Griffiths: “Mae gan Gymru bosibiliadau enfawr i gynnal prosiectau sy’n cynhyrchu ynni ar raddfa fawr i’r Deyrnas Unedig, a gall olygu manteision mawr i Gymru.

“Os ydym i ddarparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, rydym angen amrywiol dechnolegau gwahanol, o lefel gymunedol i brosiectau mawr.

“Rwy’n awyddus i symud yr agenda hon yn ei blaen fel y gall Gymru fanteisio ar y newid hwn yn hytrach na chael ei gadael ar ôl.

“Fodd bynnag, mae’n rhwystredig bod Llywodraeth y DU yn parhau i greu ansicrwydd o ran polisïau ynni, gyda phenderfyniadau yn gyrru y farchnad i ffwrdd o’r ffynonellau ynni adnewyddadwy â’r gost isaf a thanseilio hyder y buddsoddwr mewn ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru.  Mae’n rhaid i hyn newid.”

You May Also Like