Cam-drin plant yng Ngogledd Cymru: brwydr newyddiadurwr i brofi’r gwir

Roedd dedfrydu cyn uwch arolygydd yr heddlu Gordon Anglesea am droseddau rhyw yn erbyn plant fis diwethaf yn ben llanw i lawer a ddioddefodd o ganlyniad i’w weithredoedd.

Roedd yn gyfiawnder o’r diwedd i’r ddau fachgen a ddioddefodd ymosodiadau anweddus gan y dyn o Hen Golwyn yn y 1980au pan oedd yn uwch-arolygydd yn ardal Wrecsam.

Ond roedd yn gyfiawnder hefyd i newyddiadurwr o Ynys Môn, David Williams, a oedd wedi ymdrechu i brofi bod degau o bobl wedi dioddef camdriniaeth gorfforol a rhywiol mewn cartrefi gofal.

I rai o’r dioddefwyr, doedd y ffaith nad oedd neb yn eu credu yn ormod, a tydyn nhw ddim wedi byw i weld cyfiawnder – iddyn nhw roedd dweud y gwir wedi eu lladd.

Yn y rhaglen ddogfen Cam-drin Plant: Y Gwir sy’n Lladd ar nos Fawrth 13 Rhagfyr, 9.30 ar S4C, cawn glywed hanes yr achosion cam-drin plant yng Ngogledd Cymru o safbwynt y newyddiadurwr gyda HTV Cymru Wales, ITV Cymru Wales a BBC Wales a’i gwest parhaus i ganfod y gwir am gam-drin plant yn gorfforol ac yn rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru.

Bydd y rhaglen yn cael ei hadrodd o safbwynt y newyddiadurwr a chawn glywed ei stori bersonol a’i farn am stori sydd wedi diffinio ei yrfa broffesiynol ers chwarter canrif. Bydd yna hefyd gyfraniadau gan ddioddefwyr ac eraill oedd yn mynnu bod y gwir yn cael ei glywed.

Meddai David Williams: “Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn gwneud i bobl sylweddoli bod yr achosion yma o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yn y Gogledd yn fater o gywilydd i’r genedl.

“Y cywilydd ydi na wnaeth cymdeithas goelio’r bobl sydd wedi dioddef na’r rhai fel Alison Taylor a oedd yn siarad ar eu rhan.”

Fe ddechreuodd David, 66 oed, ymchwilio i achosion cam-drin plant yn nechrau’r 1990au pan wnaeth glywed stori cyn-weithiwr cymdeithasol Alison Taylor, a oedd wedi cael ei diswyddo am iddi wneud honiadau am gam-drin corfforol o blant mewn cartref yng Ngwynedd, Tŷ’r Felin ym Mangor.

Fe wnaeth ei ymchwiliad arwain at raglen am y cartref ond yn bwysicach fyth arwain David i ymchwilio i gam-drin mewn cartrefi tu hwnt i Wynedd; mewn cartrefi preifat ac awdurdod lleol ledled Gogledd Cymru.

Mae’r rhaglen yn dilyn ôl troed David wrth iddo ymchwilio i achosion cam-drin corfforol a rhywiol mewn cartrefi fel Bryn Estyn a Bryn Alyn yn y Gogledd Ddwyrain.

Fe wnaeth ei ymchwiliadau olygu iddo dalu pris mawr yn bersonol a phroffesiynol, yn enwedig yn dilyn rhaglen ITV a oedd yn cynnwys honiadau bod uwch arolygydd yr heddlu yn Wrecsam, Gordon Anglesea, wedi cam-drin plant yn rhywiol.

Yn dilyn darllediad y rhaglen, cychwynnodd ac enillodd Gordon Anglesea achos enllib yn erbyn ITV ac eraill yn 1994. Ni chredodd y rheithgor yr unigolion oedd wedi rhoi tystiolaeth ger eu bron am yr hyn a wnaeth Gordon Anglesea iddynt.

“Bron imi ymddiswyddo a chefnu ar fy ngyrfa fel newyddiadurwr y pryd hynny. Dim ond cefnogaeth fy ngwraig Rhiannon a chefnogaeth fy nghydweithwyr yn y BBC – yr oeddwn n gweithio i raglen Wales Today erbyn hynny – a’m perswadiodd i ddal ati a choelio y daw’r gwir allan yn y diwedd.”

Dros y blynyddoedd mae nifer o’r bobl fu’n blant yn y cartrefi gofal wedi methu dygymod ac wedi lladd eu hunain.

“Dyna pam yr oeddwn i eisiau defnyddio’r geiriau ‘y gwir sy’n lladd’ yn nheitl y rhaglen.

“Mae o wedi aros yn fy nghof byth wedyn bod pobl wedi talu’r pris ucha’ am ddweud y gwir a bod ein sefydliadau wedi gyrru pobl i gymryd eu bywydau.”

Ond er iddo gwestiynu ei hun dros y blynyddoedd, fel y cawn weld yn y rhaglen ddogfen, fe ddaliodd i gredu yn nhystiolaeth y bobl ifanc a thrwy broses boenus araf o adroddiadau, ymchwiliadau ac achosion llys gael ei brofi’n gywir.

Mae’r rhaglen yn dilyn hanes Adroddiad Jillings (1996) ac Ymchwiliad Waterhouse (2001, cost £14m), ymchwiliadau a arweiniodd at ychydig iawn o erlyniadau er gwaetha’r dystiolaeth a awgrymai gam-drin ar lefel eang mewn cartrefi gofal yn y gogledd.

Mae David yn bendant o’r farn y gellid bod wedi osgoi rhai o’r troseddau a gyfeiriwyd atynt yn y ddau ymchwiliad yma pe bai’r heddlu wedi gweithredu’n gynt.

Mae adroddiadau mwy diweddar fel Ymgyrch Pallial ac Adolygiad Macur i Ymchwiliad Waterhouse (y ddau yn 2013) yn ategu barn y newyddiadurwr.

Un enghraifft o dystiolaeth a anwybyddwyd oedd tystiolaeth Des Frost, dirprwy brif weithredwr cartrefi cymunedol preifat Bryn Alyn, a aeth at heddlu Caer yn 1980 gyda honiadau bod chwech o breswylwyr wedi cael eu cam-drin gan bennaeth cartrefi Bryn Alyn, John Allen, ddeng mlynedd cyn iddo gael ei ddyfarnu’n euog o gam-drin bechgyn.

“Mae sut y cafodd tystiolaeth Des Frost ei thrin yn gywilyddus. Mae’n gwneud ichi golli ffydd yn yr heddlu a’r gyfraith ac rydyn eto i gael esboniad llawn pam y digwyddodd hyn,” meddai David.

“Mae’r hyn sy’n cael ei ddatgelu rŵan am fechgyn yn cael eu cam-drin mewn clybiau pêl-droed ledled Prydain yn adrodd yr un stori – pobl mewn pŵer yn camddefnyddio grym a phlant ac oedolion yn ofn dweud. Mae’n f’atgoffa i o hanes y plant yn y cartrefi gofal,” ychwanegodd.

A ydy David yn credu y gallai cam-drin plant ar y raddfa a welwyd yng nghartrefi gofal Gogledd Cymru ddigwydd heddiw?

“Y gwir yw na allwn ni byth dweud na fydd o byth yn digwydd eto. Efallai na welwn y fath lefel o paedophiles mewn cartrefi gofal eto, ond mae’n digwydd ar y we bellach.

“Fel dywedodd un plismon wrtha i, ‘dwi’n poeni am ddiogelwch fy merch wrth iddi gerdded adra o’r ysgol ond dwi’n poeni mwy am beth mae hi’n gweld pan mae’n agor ei laptop ar ôl cyrraedd adra’. Mae’r peryglon yn dal yno’.”

Llun: Y newyddiadurwr David Williams

Cam-drin Plant: Y Gwir sy’n Lladd

Nos Fawrth 13 Rhagfyr 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C 

You May Also Like