Stori 5 – Swyn

Syniad Swyn gan Eurgain Haf

“Mae’n bleser gen i, Yr Uwch Ddewin Rhydderch y Rhyfeddod, gyflwyno’r wobr am ‘Ddisgybl Disgleiriaf y Flwyddyn’ i Swyn Ann Tomos. Llongyfarchiadau mawr iawn i ti gan bawb yn Ysgol Rhyd yr Hud.”

Cododd Swyn Ann o’i sedd i sŵn bonllefau byddarol ei chyd-ddisgyblion. Teimlai fel petai’n troedio ar aer wrth iddi gamu i fyny’r grisiau i’r llwyfan. Hynny, nes iddi edrych i lawr ar ei hesgidiau sgleiniog du a sylwi bod adenydd wedi sbrowtio ohonynt a’i bod mewn gwirionedd yn hedfan. Yn feddyliol ac yn gorfforol. Cymaint oedd grym ei doniau hud erbyn hyn, roedd hi’n gallu troi ei theimladau yn realiti!

Dyma oedd gwireddu breuddwyd iddi. Roedd hi wedi llwyddo i ennill gwobr yng Nghystadleuaeth Calan Gaeaf yr ysgol o’r diwedd. Ac wrth iddi dderbyn y gwpan hardd gan y Prifathro Rhydderch y Rhyfeddod, ac yntau yn gwenu fel giât arni o dan ei drwyn llawn defaid, teimlai ar ben ei digon. Ond yn sydyn, wrth i’w dwylo gyffwrdd y gwpan, teimlodd y metel arian yn meddalu fel hylif ac yn anweddu. Diflannodd y gwpan. Distawodd y dorf. A deffrodd Swyn Ann!

Read more

Stori 4 – Mynd Amdani

‘Mynd amdani.’ gan Bethan Gwanas.

Gweld Jazz Carlin yn crio wrth wrando ar Hen Wlad fy Nhadau yn y pwll nofio wnaeth o. Do’n i ddim yn nabod y ddynes a doedd fawr o bwys gen i pwy fysa’n ennill be yn Gemau’r Gymanwlad (dyna ydi Commonwealth Games yn Gymraeg meddai Dad) ond doedd ’na’m byd arall ar y teli.

Ro’n i wedi cael llond bol o glywed anthem Lloegr erbyn hynny, ac roedd gweld baner y Ddraig Goch yn sioc. Mwya sydyn, ar ganol ‘Gwlad, gwlad,’ wnes i ddechra crio wrth weld y ddynes Jazz ’ma yn crio. Ro’n i ar fy mhen fy hun, diolch byth, felly welodd Dad mohona i. Ro’n i mor falch ohoni, er nad o’n i rioed wedi’i gweld hi o’r blaen. Rhywun o Gymru yn curo pawb arall!

A dyna pryd wnes i benderfynu – dwi isio gwneud hynna. Dwi isio medal aur am fy ngwddw a chlywed Hen Wlad Fy Nhadau – a gwneud i bobol eraill grio am eu bod nhw mor falch ohona i.

Read more

Y Cymro yn cefnogi ymgyrch Darllena.Datblyga

Mae elusennau amlwg, sefydliadau, athrawon ac awduron plant wedi lansio cenhadaeth genedlaethol yng Nghymru i gael pob plentyn 11 oed yn darllen yn dda erbyn 2025.

Mae’r glymblaid o’r enw Darllena.Datblyga, yn symbylu cenedl gyfan i chwarae ei rhan wrth wneud i hyn ddigwydd.

Darllen yw’r allwedd i ddyfodol plentyn; mae’n helpu i ddatgloi eu potensial ac yn agor byd o bosibiliadau a chyfleoedd. Fodd bynnag, bob blwyddyn, ‘mae pedwar o bob deg (40%) o blant 11 oed yng Nghymru yn meddu ar sgiliau darllen sydd o dan eu hoed cronolegol’ [Adroddiad Estyn 2010-11]. Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru sydd yn dangos Prawf Llythrenedd Cenedlaethol dangosir fod plant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddim yn llwyddo cystal â’u cyfoedion sydd yn darllen gyda’u rheini mewn ardaloedd mwy cefnog.

Read more

Stori 3 – Cath

Cathod.

Ych a fi! Roeddwn i’n eu casáu nhw, pob un wan jac ohonyn nhw. Roedd rhai pobol ofn cŵn, a rhai eraill yn casáu pryfaid cop neu gacwn neu lygod mawr. Ond byddai’n well gen i gael fy nghloi mewn ystafell efo clamp o gi anferth, nyth cacwn neu ddwsin o lygod mawr na gorfod bod ar yr un stryd â chath.

‘Ond ma’ nhw mor ddel!’ meddai Mam un diwrnod wedi iddi ‘ngweld i’n llamu o lwybr ryw gath ddu ar y ffordd adref o’r ysgol. ‘A wnawn nhw mo dy frifo di, Siôn. Glywais i ‘rioed am gath yn ymosod ar neb!’

‘Dwi’m yn licio nhw,’ atebais yn swta.

‘Ond pam?’ gofynnodd Mam. ‘Rwyt ti mor ddewr fel arfer!’

Read more

Stori 2 – Ar lan y môr

“Am ddiwrnod braf!” meddai Mam un amser brecwast yn ystod gwyliau’r haf. “Mae’r haul yn tywynnu’n gynnes a does dim cwmwl yn yr awyr. Mae’n rhaid i ni fynd i lan y môr heddiw, Morgan a Nia.”

“Hwrê!” gwaeddais yn llawn cyffro.

“Hwrê! Hwrê! Hwrê!” gwaeddodd Nia, fy chwaer fach, a gwneud i Mam a minnau chwerthin.

Aeth Mam i godi Nia o’r gadair uchel. “Ar ôl brecwast, beth am i ti gasglu dy bethau, Morgan?” awgrymodd Mam. “Beth sydd ei angen i fynd i lan y môr, dwed?”

Read more

Stori 1 – Y Tywysog a’r Storïwr

Amser maith yn ôl, mewn castell crand, roedd tywysog o’r enw Ronald yn byw. Nawr, roedd gan Ronald BOB PETH. Roedd ganddo ffatri melysion ei hun, cogydd i wneud bwyd yn arbennig ar ei gyfer a digon o deganau i lenwi bob stafell yn y castell. Roedd ganddo ddraig anwes yn y selar a hyd yn oed storïwr arbennig fyddai’n dod i ddweud straeon wrtho bob nos. Nawr, fe dyfodd Ronald i fod yn dywysog bach diog a blin a oedd yn meddwl ei fod yn fwy clyfar na phawb arall.

Un noson, ac yntau ar fin mynd i’w wely, dyma’r hen storïwr yn dod ato i ddechrau adrodd stori.‘O na!,’ meddai Ronald a oedd y eistedd ar ei wely crand, ‘dim rhagor o straeon!’ Dwi’n rhy hen i gael stori bellach. Dwi wedi cael un bob nos ers imi fod yn fabi a dwi wedi cael llond bol ohonyn nhw!’ Croesodd Ronald ei freichiau ac edrych ar yr hen storïwr. ‘Na!, dwi ddim eisiau clywed UN stori arall. A dweud y gwir, dwi eisiau cael gwared ar bob stori o’r wlad. Dim straeon i fi na neb arall byth eto!,’ meddai’n benderfynol.

Read more