Cefn y Llwyfan: Printiau a lluniau gan John Vivian Roberts

Mae arddangosfa o brintiau a lluniau gan yr arlunydd a’r wneuthurwr printiau John Vivian Roberts (1923-2003) wedi agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Ganed Roberts yn Nhredegar, Gwent ac aeth i Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd. Astudiodd yn Ysgol Gelf Caerdydd (1939-42), ac wedyn aeth i’r Coleg Celf Brenhinol (1947-51) i astudio printiau, o dan Robert Austin yn gyntaf (ysgythru) ac wedyn Edwin la Dell (lithograffeg).

Pan oedd Roberts yn y Coleg Celf Brenhinol aeth i gefn y llwyfan yn Syrcas Bertram Mills yn Earl’s Court yn 1948. Ni allasai fod wedi rhagweld cymaint o ddylanwad y byddai’r profiad hwnnw wedi’i gael ar ei gyfeiriad celfyddydol, ac y byddai’r testun yn ysbrydoliaeth iddo am y pum degawd nesaf.

Read more