Prosiect cydweithiol Bendith yn mynd ar daith

Mae prosiect cydweithiol y bandiau Cymraeg Colorama a Plu, ‘Bendith’, yn cael ei ryddhau – eu halbwm gyda thaith a fydd yn ymweld â Salford, Caernarfon a Chaerdydd yr wythnos nesaf.

Wedi adolygiadau da ar gyfer eu sengl ‘Danybanc’ a gafodd ei ryddhau’n ddigidol ar 9 Mai, bydd yr albwm ‘Bendith’ yn cael ei ryddhau ar 7 Hydref, gyda’r prosiect yn ymweld â Eglwys Sacred Trinity Salford ar 6 Hydref, Galeri, Caernarfon ar 7 Hydref ac Eglwys St Ioan, Treganna ar 8 Hydref.

Read more