Y Lolfa yn dechrau dathliadau hanner canmlwyddiant yn gynnar

Bydd gwasg Y Lolfa yn gweld dechrau dathliadau hanner canmlwyddiant ers sefydlu’r wasg yn gynharach na’r disgwyl wrth lansio dyddiaduron personol sylfaenydd Y Lolfa a chyd-sylfaenydd y cylchgrawn Lol Robat Gruffudd heno, nos Wener.

Cyfrol o ddyddiaduron personol ‘ecsentrig a rhy onest’ a gadwodd Robat Gruffudd, ers y chwedegau yw Lolian. Ysgrifennwyd y dyddiaduron dros yr hanner canrif diwethaf ac fe’i cyhoeddir am y tro cyntaf eleni.

Cyhoeddir y dyddiaduron cyn hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa flwyddyn nesaf ac mae’r llyfr yn sôn am rai o helyntion y byd cyhoeddi. Ond mae Robat am bwysleisio mai nad hunangofiant a geir yma na hanes y wasg fel y cyfryw.

Read more

Cyhoeddi hunangofiant ‘trysor cenedlaethol’

Mae’r enwog Dai Jones Llanilar yn cyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos hon fydd yn olrhain ei hanes dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Bydd Tra Bo Dai yn dilyn hynt a helynt gyrfa Dai Jones dros yr ugain mlynedd diwethaf, fel ffarmwr, cyflwynydd a darlledwr mwyaf poblogaidd Cymru. Cydysgrifenwyd gyda’i gyfaill mawr, Lyn Ebenezer.

Yn ffermwr, cyflwynydd teledu a radio ar raglenni megis Cefn Gwlad neu’r Sioe Fawr, Dai Jones yw un o gymeriadau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus cefn gwlad Cymru.

Read more

Hen chwedl o Ben Llŷn yn sbarduno nofel rymus

Stori wir a oroesoedd ar lafar gwlad yw testun nofel newydd sbon a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon.

Yn Pantywennol gan Ruth Richards, olrheinir hanes Elin Ifans – merch fywiog yn ei harddegau sydd yn gaeth i rigolau bywyd cefn gwlad Pen Llŷn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Oherwydd ei hobsesiwn â’r goruwchnaturiol caiff Elin yr enw Bwgan Pantywennol gan y bobl leol, gan godi tensiynau a gwrthdaro yn y gymuned rhwng crefydd ac ofergoeliaeth.

Read more

Ein perthynas â’n hiaith yn ysbrydoli cyfrol o straeon byrion gan Lleucu Roberts

Cymreictod â’r iaith Gymraeg sydd wedi ysbrydoli un o awduron amlycaf Cymru yn ei chyfrol newydd.

Yr eliffant hardd, y rhodd fregus, y llifeiriant yn y pen a’r bachyn yn y galon: mae hi yma yn ei hamryfal liwiau – y Gymraeg.

Hi yw’r llinyn sy’n cydio’r wyth stori fer yng nghyfrol newydd Lleucu Roberts, Jwg ar Seld, a gyhoeddir yr wythnos hon.

Yn y straeon byrion fe ddarlunir cymeriadau amryliw o bob rhan o’r Gymru gyfoes gan rychwantu sawl haen o gymdeithas.

Read more

Cyfrol newydd yn edrych ar ddylanwad y Cymry ar Manchester Utd

MAE Cymru wedi gwneud cyfraniad amrhisadwy i un o glwbiau pêl-droed mwyaf poblogaidd y byd, Manchester United, yn ôl llyfr a gyhoeddir yr wythnos hon.

Mae The Manchester United Welsh gan Gwyn Jenkins a Ioan Gwyn yn cynnig mewnwelediad i gyfraniad Cymru i un o glwbiau pêl-droed enwocaf y byd.

O’i dechreuad bron i ganrif a hanner yn ôl a chwarewyr megis Jack Powell a Billy Meredith, drwy Oes Aur yr 1950-60au gyda Jimmy Murphy a Matt Busby, i ogoniant y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad Alex Ferguson gyda chwarewyr byd enwog megis Mark Hughes a Ryan Giggs, mae Cymry wedi chwarae rhan hanfodol yn siapio llwyddiant clwb sydd yn denu cefnogaeth ar draws y byd.

Read more

Ffans pêl-droed yn cofio llwyddiant Cymru yn yr Ewros

Mae geiriau’r Prifardd Aled Gwyn yn crynhoi teimladau ffans pêl-droed Cymru sydd wedi dod ynghyd er mwyn dathlu llwyddiant ein tîm cenedlaethol yn yr Ewros mewn cyhoeddiad newydd a gyhoeddir yr wythnos hon.

Casgliad o ysgrifau i ddathlu a chofnodi llwyddiant tîm pêl-droed Cymru eleni yw Merci Cymru gyda chyfraniadau gan ffans, sylwebwyr a rhai o enwau mawr y gêm gan gynnwys y sylwebydd Dylan Ebenezer, y cyn-chwaraewr ac academydd Laura McAllister, a’r Prifeirdd Aled Gwyn a Rhys Iorwerth.

Ynddo darlunir bwrlwm yn y gêmau, ar y strydoedd, yn y fanzones, ar y soffa ac yn y tafarndai ac argraffiadau byw o gyfnod arbennig iawn yn hanes pêl-droed Cymru.

Read more

O gyffordd i gyffordd gydag Ian Parri

MAE’R ffaith bod ein rheilffyrdd yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd gan gwmni sydd ym mherchnogaeth llywodraeth Yr Almaen yn dangos na ellid diystyru eu gwladoli gan y Cynulliad, yn ôl awdur llyfr sydd newydd ei gyhoeddi.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol cyn hir yn penderfynu pwy gaiff yr hawl i redeg y trenau yng Nghymru a’r Gororau o 2018 ymlaen.

A chyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi dangos cynnydd calonogol yn y niferoedd sy’n ei ddefnyddio ers i Lywodraeth Cymru ei brynu am £52m yn 2013, gan ei achub rhag mynd i’r wal, teimla Ian Parri na fysai ymyrraeth y wladwriaeth o angenrheidrwydd yn ddrwg o beth i’n rheilffyrdd chwaith.

Read more