Superb Skoda – Car o sylwedd enillodd sylw

DYWEDIR mae Vaclav Havel, diweddar Arlywydd y Tsiec-Weriniaeth fu’n gyfrifol am Superb 2001 Skoda. Erbyn 1999 rhoddodd Tryciau Tatra’r gorau i wneud ei car mawr (a swyddogol y llywodraeth). Gofynnodd Havel i Skoda (eiddo i VW ers degawd) am rywbeth yn ei le. Cafwyd gafael ar lwyfan Audi estynedig gan Grŵp VW Tseina, ei ail-gorffori ac atgyfodi enw pencar Skoda’r 30au.

Camp fu lansio car safonol ei faint i ganol tiriogaeth “glaswaed” Ewrop. Ond wedi saith mlynedd a 170,000 (bu diwygio arno yn 2006) gellid cyfiawnhau olynydd yn 2008. Gyrriant blaen eto a mwy confensiynol ond arlwy ehangach: 4×4, e.e.

Read more