Cofio canmlwyddiant geni Arlunydd Dyfed, John Elwyn

Ymhen ychydig ddyddiau bydd hi’n gan mlynedd ers geni ‘Arlunydd Dyfed’.

Mae nifer wedi ei gydnabod fel arlunydd a bortreadodd fryniau a thirlun gwledig gorllewin Cymru, tra i’w gyfoeswr, Kyffin Williams bortreadu llymder mynyddoedd creigiog gogledd Cymru.

Ganed William John Elwyn Davies ar 20 Tachwedd 1916, yn blentyn ieuengaf David ac Anne Davies, Emlyn Mills, ym mhentref Adpar, ger Castellnewydd Emlyn.

Gwëydd oedd galwedigaeth ei dad ac ymddiddorai hefyd mewn llunio penillion, gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol.

Yn ddeunaw oed, astudiodd gelf yng Nghaerfyrddin ac yna ym Mryste, cyn derbyn ysgoloriaeth a threulio’r blynyddoedd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd yng Ngholeg Celf Brenhinol, Llundain.

Mabwysiadodd yr enw John Elwyn wrth arlunio ar gyfer llyfr yn 1941, ac oddi ar hynny, penderfynodd ddefnyddio’r enw’n broffesiynol.

Ymgartrefodd yn swydd Hampshire, yn gyntaf fel darlithydd yn Llongborth cyn derbyn swydd yn Ysgol Gelf Caer-wynt.

Er iddo dreulio dros hanner can mlynedd yn Lloegr, bu ei fagwraeth ar lannau’r afon Teifi yn ddylanwad arno fel artist trwy gydol ei fywyd.

Treuliodd nifer o’i wyliau haf a’r Pasg adre yn y ffatri wlân, gan gymryd mantais o’r cyfleoedd hynny i’w atgoffa o’r newydd am fro ei febyd, cyn dychwelyd i Loegr i baentio.

Yn ystod un o’r gwyliau hynny, dywedodd mewn llythyr at un a fu’n gefnogwr brwd i’w ddatblygiad fel arlunydd, Winifred Coombe-Tennant: “It is strange perhaps but I can paint imaginative compositions better when I am removed from the object of interest.”

Gwir yw’r ddihareb honno wrth feddwl am John Elwyn: gorau Cymro, Cymro oddi cartref.

Trwy ei baentiadau, cyfleodd brydferthwch a bywyd cefn gwlad de sir Aberteifi i’r dim.

Mae ei weithiau i’w gweld mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a thu hwnt.

Bu farw yn Nhachwedd 1997, a dychwelodd i’w “hên fro” pan gladdwyd ei weddillion yng nghanol dolydd Brongwyn ym mynwent Parcau.

Fel un o’r sefydliadau cyhoeddus lle cedwir ei baentiadau, y mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gartref i archifau John Elwyn a’i dad.

Yr archif fwyaf nodedig yw John Elwyn Papers sy’n cynnwys gwerth trigain mlynedd o lythyrau a dderbyniodd oddi wrth unigolion megis Winifred Coombe-Tennant, Alun Hoddinnott, Glyn Jones, John Petts a Kyffin Williams.

Yn archifau Winifred Coombe-Tennant a Glyn Jones ceir llythyrau a ysgrifennodd John Elwyn atynt hwy, sy’n cynnig cip ar feddwl a gwaith yr arlunydd hwn y byddwn yn cofio ei ben-blwydd yn gant oed eleni.

You May Also Like