Comisiwn y Cynulliad yn cytuno ar ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Trafododd Comisiwn y Cynulliad nifer o faterion strategol arwyddocaol yn ei gyfarfod diweddaraf.

Cynigiodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth ddiamwys i ddwy fenter o bwys ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd – sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, gyda Chomisiwn y Cynulliad yn ei chefnogi a’i hariannu, a datblygu Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol.

Mae’r Comisiynwyr yn awyddus i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu Senedd Ieuenctid newydd yn cael ei lywio gan safbwyntiau arbenigwyr yn y maes ac ystod eang o blant a phobl ifanc.

Felly bydd cynlluniau ar gyfer Senedd Ieuenctid newydd yn adeiladu ar waith Ymgyrch Cynulliad Pobl Ifanc Cymru.

Bydd y Comisiwn yn ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer Senedd Ieuenctid yn gynnar yn 2017 gyda’r bwriad o ganfod y seneddwyr ifanc cyntaf yn ail hanner y flwyddyn a chynnal cyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid yn 2018.

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, bydd y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol, dan gadeiryddiaeth Leighton Andrews, yn dechrau ei waith yn y cyfarfod cyntaf cyn diwedd y mis hwn.

Bydd y tasglu yn rhoi syniadau newydd i’r Comisiwn ynghylch sut y gall y Cynulliad ddarparu newyddion a gwybodaeth fwy diddorol a hygyrch am waith y ddeddfwrfa.

Rhoddodd y Comisiynwyr hefyd ystyriaeth i waith archwiliadol i sicrhau bod ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd yn datblygu i gyd-fynd â gwaith y Cynulliad.

O ystyried y cynnydd yng ngweithgarwch pwyllgorau ers yr etholiad, cytunodd y Comisiynwyr i ad-drefnu llawr gwaelod Tŷ Hywel.

Bydd hyn yn golygu bod gan y Cynulliad bum ystafell bwyllgora â’r holl offer angenrheidiol – tair yn y Senedd a dwy yn Nhŷ Hywel. Bydd yr ystafelloedd newydd yn barod o ddechrau tymor yr haf.

Cytunodd y Comisiwn hefyd i ymchwilio i nifer o opsiynau er mwyn sicrhau y gellir diwallu anghenion yn y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys archwilio’r posibilrwydd o brydlesu lle ychwanegol ym Mae Caerdydd ac adeiladu swyddfa newydd.

Mae trafodaethau cychwynnol yn awgrymu efallai y gellid gwneud hyn heb fuddsoddiad cyfalaf ymlaen llaw.

Bydd angen archwilio pob opsiwn yn fanwl a thrylwyr dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Yn olaf, trafododd y Comisiwn ei safbwynt ynglŷn â chapasiti’r Cynulliad.

Adolygodd adroddiad blaenorol y Comisiwn – “Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru”, a oedd yn ddiamwys ei gefnogaeth i gynyddu maint y Cynulliad.

Cytunodd y Comisiwn fod yr achos o blaid cael Cynulliad mwy o faint yn fwy grymus nag erioed o’r blaen, a chytunodd y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith i ymchwilio ymhellach i’r materion perthnasol ar sail drawsbleidiol, gan fanteisio ar gyngor arbenigol, niwtral.

Yn amodol ar basio Mesur Cymru sydd ar hyn o bryd gerbron Senedd y DU, bydd y pŵer i ddeddfu i gynyddu maint y sefydliad ac i ddiwygio’r system etholiadol yn cael ei ddatganoli i’r Cynulliad.

Cytunodd y Comisiwn yn unfrydol y bydd yn datblygu’r gwaith hwn, gan weithredu ar ran y sefydliad, ac er budd democratiaeth yng Nghymru.

Meddai Elin Jones AC, y Llywydd: “Mae’r Comisiwn yn gwneud y penderfyniadau angenrheidiol i wneud ein senedd yn addas ar gyfer y dyfodol – gan roi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth, cyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd a chyflawni ei ddyletswydd statudol i alluogi’r Cynulliad i ymgymryd â’i waith deddfwriaethol a’i waith craffu.

“Wedi archwilio capasiti’r Cynulliad dro ar ôl tro, dangoswyd ei fod o dan bwysau mawr o ystyried maint ei bwerau deddfu a’i bwerau cyllidol.

“Mae maint yr heriau sy’n ein hwynebu yn golygu bod rhaid i’r Comisiwn fod yn ddigon dewr i gymryd camau pendant.

“Pe byddai Mesur Cymru yn cael ei basio, a’r Cynulliad yn penderfynu arfer ei bwerau deddfwriaethol newydd yn y maes hwn, rydym yn benderfynol o wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i roi’r gallu i’n Senedd gyflawni democratiaeth gref a chynaliadwy i Gymru.”

Llun: Elin Jones

You May Also Like