Gofal fasgwlaidd o’r radd flaenaf Ysbyty Gwynedd yn hanfodol i gleifion gogledd Cymru

Mae Cynghorydd Plaid Cymru dros Bentir, Bangor, John Wyn Williams yn dweud nad oes unrhyw synnwyr yng nghynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i symud gwasanaeth gofal fasgwlar o’r radd flaenaf o Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae tîm fasgwlaidd Ysbyty Gwynedd yn arwain y ffordd yn fyd-eang wrth arbed aelodau o’r corff mewn cleifion diabetig ac mae’r adran yn cynnig y gwasanaeth gorau trwy Gymru wrth sicrhau mynediad i gylchrediad y gwaed i gleifion dialysis arennol.

Mae’r tîm fasgwlaidd yn gofalu am bobl sydd â chyflyrau sy’n effeithio ar gylchrediad y gwaed sef cleifion sy’n dioddef o glefydau sy’n effeithio ar y rhydwelïau, gwythiennau a phibellau lymff.

“Dyw’r bwriad yma gan y Bwrdd Iechyd i symud y gwasanaeth yn gwneud dim synnwyr o gwbl,” eglura’r Cynghorydd Williams sy’n cynrychioli Pentir, y ward lle lleolir Ysbyty Gwynedd.

“Pam newid gwasanaeth safonol byd-eang, a chyflwyno cysyniad dinesig o ‘hwb’ fasgwlaidd i ardal wledig fel gogledd Cymru?

“Efallai bod syniadau o’r fath yn gweithio mewn dinasoedd poblog, ond mewn ardal ddaearyddol wledig fawr fel gogledd Cymru, mae’r heriau rydym yn eu hwynebu yn gwbl wahanol.

“Mae’r gwasanaeth fasgwlaidd integredig yn Ysbyty Gwynedd yn dîm bychan o staff ymroddedig gydag arbenigwyr sy’n cyflawni eu gwaith yn gampus. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gofal i gleifion o’r radd flaenaf.

“Mae ymgynghorwyr yn dweud wrthyf bod y gwaith integredig agos sydd rhwng y staff nyrsio a’r staff meddygol yn gwneud yr adran yn un llwyddiannus ym Mangor.

“Pam ar y ddaear y byddech yn cynnig bod angen newid hynny?

“Gall mwyafrif helaeth o gleifion y gogledd gyrraedd Bangor o fewn awr, ond byddai symud y gwasanaeth o Fangor i Ysbyty Glan Clwyd yn cael effaith enfawr ar gleifion sy’n byw mewn ardaloedd fel Pwllheli, Aberdaron, Porthmadog a Chaergybi.

“Rydym yn gwybod pan fydd ein hanwyliaid yn sâl, rydym yn awyddus i fynd â nhw i ba bynnag leoliad lle mae staff wrth law i gynorthwyo, cynghori a gofalu amdanynt.

“Mae cael tîm o staff sy’n gwneud enw iddynt eu hunain yn fydeang yn yr uned fasgwlaidd ym Mangor yr opsiwn cywir ar gyfer y mwyafrif helaeth o gleifion sy’n byw yng ngogledd Cymru.

“Dwi’n hynod siomedig bod y Bwrdd Iechyd yn ystyried newid y gwasanaeth rhagorol hwn ar adeg pan fo cymaint o adrannau a gwasanaethau eraill yn methu o fewn y gwasanaeth iechyd.

“Rwy’n cwestiynu dilysrwydd penderfyniad o’r fath a’i herio i edrych ar yr adrannau hynny sydd yn cael trafferthion ac sy’n methu â chynnig gwasanaethau o ansawdd i gleifion gogledd Cymru.

“Rydyn ni eisoes yn gwybod pa mor anodd yw hi i ddenu a recriwtio ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol sy’n arbenigo mewn meysydd gwahanol i ogledd Cymru, problem a wynebir yn rheolaidd yn Ysbyty Glan Clwyd yn enwedig.

“Byddai newid lleoliad uned gwasanaeth fasgwlar o ansawdd o Fangor i Fodelwyddan yn ychwanegu elfen wirioneddol o risg i’r gwasanaeth.”

Mae dros 3,000 o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu’r newid ac mae Cyngor Cymuned Pentir wedi anfon llythyr gan nodi eu pryderon i Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.

Mae’r Cynghorydd John Wyn Williams hefyd yn cysylltu â’r Bwrdd i herio’r penderfyniad.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn ac Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood hefyd yn ymgyrchu ar y mater hwn ac yn cefnogi galwadau’r Cynghorydd lleol i ddileu’r cynlluniau.

Dywedodd Siân Gwenllian AC: “Dwi wedi galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd, llawn a thryloyw ynghylch dyfodol gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru.

“Dwi eto i gael fy argyhoeddi o’r angen i symud oddi wrth y model presennol o ddarparu gwasanaethau fasgwlar gan fod y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd yn derbyn clod rhyngwladol am y gwaith.

“Mae cymaint wedi newid ers ymgynghoriad 2013, ymgynghoriad oedd yn gyffredinol ei natur ac nad oedd yn ystyried gwasanaethau fasgwlaidd yn benodol.

“Ers hynny, yn 2015 rhoddwyd y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig.

“Er mwyn adennill ymddiriedaeth y cyhoedd mae angen i’r Bwrdd fod yn barod i gael trafodaethau llawn ac agored am newidiadau i wasanaethau ac esbonio, yn llawn, yr angen a’r manteision wrth gynnig newidiadau o’r fath.”

Llun: John Wyn Williams

You May Also Like