Golygyddion yn trafod cyfrol cerddi Aberfan

BYDD yr Athro Christine James, Prifysgol Abertawe, a’i gŵr, yr Athro E. Wyn James, Prifysgol Caerdydd, yn cynnal sgwrs gyda Sioned Williams am eu cyfrol Dagrau tost: cerddi Aber-fan yn Amgueddfa’r Glannau ddydd Llun, 10 Hydref, am 1 o’r gloch.

Er coffáu hanner canmlwyddiant cyflafan Aber-fan bydd y siaradwyr yn trin eu gwaith fel golygyddion casgliad diweddar o gerddi Cymraeg a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau Barddas  am un o ddyddiau tristaf yn hanes Cymru.

Ar y cyd â Gŵyl Abertawe bydd y drafodaeth yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.

Ym mis Hydref 1966 daeth pentref Aber-fan ger Merthyr Tudful yn ffocws sylw a chydymdeimlad y byd cyfan pan lithrodd tomen lo ar ben Ysgol Gynradd Pant-glas ar 21 Hydref gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion.

Yma yng Nghymru, daeth Aber-fan hefyd yn ffocws i gorff o farddoniaeth Gymraeg drawiadol ac amrywiol wrth i’r beirdd hwythau ymateb i’r drychineb, ar y pryd a hefyd dros y blynyddoedd i lawr hyd heddiw.

Dyma’r tro cyntaf i gasgliad mor gyflawn  o gerddi am Aber-fan gael eu cywain ynghyd yn yr un lle.

Dechreuodd y golygyddion ar y gwaith dros ugain mlynedd yn ôl, a hynny oherwydd eu bod mor ymwybodol o bwysigrwydd ac arwyddocâd Trychineb Aber-fan i’r genedl.

Ond yr oedd yna resymau eraill, mwy personol dros  lunio’r gyfrol, fel y maent yn egluro yn y Rhagair i’r gyfrol: “Fe’n magwyd ni’n dau yn yr 1950au a’r 1960au yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain, nid nepell o Aber-fan – Christine yn Nhonypandy yng Nghwm Rhondda a Wyn yn Nhroed-y-rhiw, y pentref nesaf i Aber-fan.

“Yr ydym hefyd ein dau dros y blynyddoedd wedi dysgu modiwlau ar lenyddiaeth Gymraeg Cymoedd y De … wrth ymchwilio’n fanylach daeth yn amlwg fod corff llawer mwy sylweddol o farddoniaeth Gymraeg am y drychineb nag yr oeddem wedi sylweddoli ac wedi disgwyl ei fod ar gael …”

Cynhwysir yn y gyfrol weithiau gan 77 o amrywiol feirdd, yn feirdd cenedlaethol, beirdd lleol digon amlwg yn eu dydd a ffyddloniaid y colofnau barddol yn y papurau wythnosol ac enwadol.

A thrwy roi sylw i ymateb y beirdd i’r ddamwain erchyll yn y pentref hwn, yr hyn mae’r golygyddion yn ei wneud ar un ystyr yw archwilio ymateb y gymuned Gymraeg yn gyffredinol i Drychineb Aber-fan.

You May Also Like