Mae chwiw y Clematis wedi dechrau cnoi unwaith eto

Chwiw gref ydy’r chwiw gasglu unwaith bydd hi wedi gafael.  Waeth i mi gyfaddef mod i wedi cael sawl brathiad ganddi, llyfrau hynafiaethol, stofs paraffin a chryno ddisgiau i enwi dim ond tair o’r chwiwiau hynny!

Afraid dweud fod yna chwiwiau planhigion wedi dod, a mynd yn eu tro.

Coed masarn bach oedd un o’r chwiwiau cynharaf. Bu cyfnod o ymhel efo rhedynau ac ymgais gwbl aflwyddiannus i dyfu’r fantell Fair.

Dod, a mynd, ddaru chwiw’r Clematis, ond anodd ydy tynnu cast o hen geffyl yn te?

Wedi i mi alw yng ngardd Bodnant dro’n ôl, mae arna’i ofn bod y chwiw honno wedi dechrau cnoi unwaith eto.

Clematis montana oedd y cyntaf i’m brathu tua phymtheng mlynedd yn ôl. Os cafodd yr ymadrodd am roi modfedd a chymryd llathen ei fathu ar gyfer planhigyn, hawdd iawn gellid credu mai ar gyfer Clematis montana gwnaed hynny.

Fy mwriad wrth blannu’r Clematis montana oedd gorchuddio wal noeth efo cawod wen o flodau bob mis Mai.

Bu’r llwyddiant yn ysgubol, mor ysgubol nes i’r gawod wen fygwth troi’n lluwch. Er gwaetha’i awydd i draflyncu popeth o fewn ei afael, gan gynnwys cwt y stofs paraffin, anodd iawn oedd digio efo hwn.

Cadwai ei addewid yn flynyddol gan flodeuo’n hael mewn cil haul ar wal sy’n wynebu’r gogledd. Byddwn yn dal i gymeradwyo Clematis montana, dim ond i chi gofio am ei natur cyw gog.  Mi ges innau, fel y ci, ormod o bwdin, a bu’n rhaid ffarwelio efo’r Clematis hwnnw.

Wrth edrych yn ôl, fymryn yn hŷn, a fymryn bach yn gallach, mi allwn fod wedi dewis yn well ar gyfer gardd fach.

Y gwir ydy fod yna gymaint o ddewis ymhlith teulu mawr y Clematis y gallech chi gael o leiaf un ohonynt yn ei flodau bob mis o’r flwyddyn. Planhigion perffaith ar gyfer pobl sy’n dioddef o’r hen chwiw gasglu ‘na!

Ie, Bodnant, dyna lle daeth chwiw’r Clematis heibio unwaith eto.

Dod wyneb yn wyneb efo un o flodau gorau’r tymor ddaru mi, Clematis tangutica.

Os mai papur sidan ydy petalau Clematis montana, lledr gwydn, cnawdiog ydy petalau hwn.

Mae’n llusern o flodyn melyn llachar, sy’n agor yn raddol i ddatgelu swp o frigerau browngoch.

Cafodd y llysenw ‘clematis croen oren’, ond o gofio lliw’r petalau oni fyddai ‘croen lemwn’ wedi bod yn agosach i’w le?

Heb amheuaeth, y ffurf ‘Bill MacKenzie’ ydy’r math efo’r blodau mwyaf, ac o ganlyniad, dyma’r aelod mwyaf adnabyddus o’r teulu.

Os oes ganddo fai, mae’n rhannu’r bai hwnnw efo Clematis montana. Ydy, mae hwn hefyd yn dipyn o garlamwr.

Ond mae mistar ar mistar Mostyn, ac os caiff ei dorri’n ôl yn galed bob mis Chwefror mi fydd hynny yn ei gadw dan reolaeth.

Bob mis Chwefror cofiwch! Wrth i’r blodau bylu, daw’r pennau hadau sidanaidd yn wawn llaes a blewog i orchuddio’r llwyn.

Dyma sut cafodd Clematis un o’i lysenwau mwyaf adnabyddus, ‘barf yr hen ŵr’. Llysenw sy’n llygaid ei le.

You May Also Like