O gyffordd i gyffordd gydag Ian Parri

MAE’R ffaith bod ein rheilffyrdd yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd gan gwmni sydd ym mherchnogaeth llywodraeth Yr Almaen yn dangos na ellid diystyru eu gwladoli gan y Cynulliad, yn ôl awdur llyfr sydd newydd ei gyhoeddi.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol cyn hir yn penderfynu pwy gaiff yr hawl i redeg y trenau yng Nghymru a’r Gororau o 2018 ymlaen.

A chyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi dangos cynnydd calonogol yn y niferoedd sy’n ei ddefnyddio ers i Lywodraeth Cymru ei brynu am £52m yn 2013, gan ei achub rhag mynd i’r wal, teimla Ian Parri na fysai ymyrraeth y wladwriaeth o angenrheidrwydd yn ddrwg o beth i’n rheilffyrdd chwaith.

Teithiodd mwy na 500 o’r 675 milltir sy’n ffurfio’r rhwydwaith yng Nghymru tra’n ymchwilio i’w deithlyfr Cyffordd i Gyffordd, sydd newydd ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn, ac mae’n teimlo bod angen ail-feddwl dybryd am sut y mae’r gyfundrefn drenau yn cael eu rhedeg.

“Does dim dwywaith bod ein rhwydwaith rheilffyrdd yn drewi o’r diffyg buddsoddiad mae wedi ei ddiodde’ dros y degawdau,” meddai.

“Ond bellach ei fod yn cael ei gydnabod fel rhan eglur o isadeiledd trafnidiaeth Cymru, yn hytrach na rhyw gornel o rwydwaith Lloegr sydd wedi ei esgeuluso ers degawdau, mae hi’n bryd cymryd golwg ffres Gymreig ar bethau.

“Mae Trenau Arriva Cymru wedi rhedeg yr hawlfraint am elw ers 2003, a’u perchnogion nhw ydy Deutsche Bahn, sef rheilffyrdd gwladoledig Yr Almaen.

“Rhoddodd John Major y rheilffyrdd yn anrheg i gwmniau preifat pan oedd yn brif weinidog Prydain, can fynnu na allai cludiant oedd ym meddiaeth y wladwriaeth fyth dalu ei ffordd.

“Roedd honno’n ddadl ryfedd ar y naw pan fo llywodraeth Yr Almaen yn gallu rhedeg ein rheilffyrdd am elw.

“Dylai’r elw yna fod yn aros yng Nghymru er mwyn ei fuddsoddi mewn gwelliannau pellach i’r rhwydwaith.”

Dywed na fasai raid o reidrwydd seilio unrhyw gyfundrefn ar un yr hen Reilffyrdd Prydeinig, pan oedd pryderon bod y wladwriaeth yn ymyrryd gormod yn y busnes o redeg trenau o ddydd i ddydd.

“Efallai y basen ni’n gallu edrych mwy ar fodel busnes hyd braich fel Glas Cymru, sy’n rhedeg Dŵr Cymru fel cwmni nid-er-elw. Does dim amheuaeth, tra bod enghreifftiau o welliannau hwnt ac yma, dylen ni fod yn edrych ar fuddsoddi hyd yn oed fwy ar wneud ein rheilffyrdd yn rhan o rwydwaith cludiant integredig a chyfoes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”

Mae ei lyfr, sydd yn fwy o deithlyfr tafod-yn-y-boch na’n gyhoeddiad am drenau, yn mynd ag o ar gylchdaith o amgylch Cymru gan gychwyn a diweddu yn yr enwog Gyffordd Dyfi ym Mhowys.

Aiff ar daith with diwrnod ar ffurf y ffigwr with sy’n mynd ag o i Amwythig, Caerdydd, Abertawe, Llandeilo, Llandrindod, Wrescam, Rhyl, Blaenau Ffestiniog ac ar dren bach Ffestiniog i ymuno gyda Lein y Cambrian ym Minffordd.

Cyffordd i Gyffordd, gan Ian Parri. Cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn. £9.95.

Llun: Ian Parri yng Nghyffordd Dyfi

You May Also Like