Rhaid i annibyniaeth sefydliadau fod yn ‘llinell goch’ wrth ddiwygio Cymru Hanesyddol

Mae Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Dr Dai Lloyd AC, wedi dweud heddiw fod gwarchod annibyniaeth prif gyrff treftadaeth Cymru yn ‘linell goch’ iddo mewn trafodaethau diwygio gyda Llywodraeth Lafur Cymru.

Yn gynharach eleni, sefydlodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, weithgor gyda golwg ar greu corff newydd, Cymru Hanesyddol, trwy uno gwaith masnachol cyrff a mudiadau treftadaeth megis Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC fod y diffyg ymwneud a thrafodaeth gyda’r sector treftadaeth ar y pwnc ar ran Llywodraeth Cymru yn “annerbyniol”.

Galwodd Dr. Lloyd hefyd ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud cyhoeddiad ffurfiol y perchid annibyniaeth yr holl gyrff dan syl;w, yn unol â dymuniadau’r sector, pan fydd yn gwneud datganiad ar y mater yn y Senedd ar Dachwedd 8.

Dywedodd: “Ymddengys bod cynigion Llywodraeth Cymru i uno cyrff treftadaeth allweddol wedi eu creu ar frys a heb ddigon o feddwl.

“Dylid cytuno ar unrhyw ddiwygiadau fel hyn trwy ymgynghoriad â’r sector perthnasol, er mwyn trylowyder a llunio polisi ar sail o wybodaeth. Mae’r diffyg ymwneud a thrafodaeth ar ran Llywodraeth Cymru yn hollol annerbyniol.

“Hyd yma, beirniadwyd cynlluniau Llywodraeth Cymru o bob cyfeiriad, gan ddweud eu bod yn ddryslyd, ac eto, mae’n rhwystredig gweld y Gweinidog Llafur yn troi clust fyddar i’r pryderon dilys hyn.

“Bu’r bygythiad i annibyniaeth y cyrff hyn yn amlwg ymysg y pryderon a leisiwyd hyd yma.

“Mae sefydliadau o’r fath yn gwarchod treftadaeth Cymru. Maent yn chwarae rhan allweddol yn ein hunaniaeth genedlaethol, ac oherwydd hynny, rhaid i’r Llywodraeth Lafur drin eu hannibyniaeth fel llinell goch mewn unrhyw ddiwygiadau sy’n digwydd.

“Byth methu gwneud hynny yn tanseilio uniondeb a diben y sefydliadau gwerthfawr hyn.

“Byddaf yn gwneud cais am ddadl yn y Cynulliad am gynllun Cymru Hanesyddol ac yn disgwyl i’r Gweinidog dalu sylw i bryderon y sector treftadaeth ac i weithredu yn unol â’u gwybodaeth a’u harbenigedd.”

You May Also Like