Siaradwyr Cymraeg yn cael eu hanffafrio gan ymdrech ddigideiddio San Steffan

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliannau i Fesur Economi Digidol (Digital Economy Bill) Llywodraeth San Steffan neithiwr i orfodi’r Llywodraeth i sicrhau fod gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar y rhyngrwyd gan y Llywodraeth yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â’r Saesneg.

Ar hyn o bryd, does dim dyletswydd ar y Llywodraeth i ddarparu eu gwasanaethau digidol yn Gymraeg. Mae hyn yn rhwystro’r 700,000 o siaradwyr Cymraeg ar draws y Deyrnas Gyfunol rhag defnyddio’r holl gynnwys sydd ar gael i siaradwyr Saesneg.

Mae galwad Plaid Cymru yn dod yn sgîl beirniadaeth Comisiynydd y Gymraeg o Lywodraeth San Steffan am wanhau eu gwasnaethau cyfrwng Cymraeg ar draws eu gwefan gov.uk, ers ei lansiad yn 2012.

Ar ôl arolygu gwefannau gov.uk penderfynodd y Comisynydd fod darpariaeth gwybodaeth yn yr iaith Gymraeg yn ddiffygiol ac fod hynny yn amharu ar brofiad pobl wrth ddefnyddio gwasanaethau arlein y Llywodraeth.

Dwedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts AS: “Mae hi’n hen bryd i hawliau siaradwyr Cymraeg i wasanaeth cydradd gael ei barchu.

“Dylai’r hawliau yma gael eu cynnwys fel mater o egwyddor, ar statud yn y cyd-destyn llywodraeth ddigidol.

“Ar hyn o bryd does dim dyletswydd ar Lywodraeth San Steffan i ddarparu gwasnaethau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae hyn yn anffafrio’r 700,000 o siaradwyr Cymraeg ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yn eu rhwstro rhag manteisio o’r holl gynnwys sydd ar gael i siaradwyr Saesneg.

“Serch cynnydd graddol mewn cydraddoldeb ieithyddol, a serch bodolaeth y fframwaith statudol, dydy gwasanaethau dwyieithog y Llywodraeth ddim yn cynyddu ar yr un raddfa a thechnoleg.

“Yn aml mae gwasanaethau a chynnwys dim ond ar gael yn Gymraeg ar ôl gofyn am gyfieithiad – rhywbeth fydd yn anochel yn rhwystro defnyddwyr.

“Ac ers canoli gwefannau’r Llywodraeth igov.uk, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn syfrdanol.

“Mae’r ieithydd, András Kornai wedi amcangyfrif fod tua 2,500 allan o’r 7,000 o ieithoedd sydd dal i’w siarad ledled y byd heddiw mewn peryg.

“Mae defnydd digidol o ieithoedd yn cyffwrdd fwyfwy ar bob agwedd o gyfathrebu, o’r cyfryngau cymdeithasol i Lywodraeth ddigidol.

“Os nad yw iaith ar y we, gellir dweud nad yw’r iaith honno’n bodoli ar gyfer cyfathrebu yn yr 21ain ganrif.

“Mae Kornai yn amcangyfrif fydd y bwlch digidol yn lleihau’r nifer o iethoedd i 5% o’r rheini sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

“Mae’r symudiad tuag at gyfathrebu digidol yn debygol o ddilyn at rhyw 6,000 o ieithoedd yn diflannu ar draws y byd.

“Bydd ein gwelliant ni yn sicrhau fod cyfathrebu hanfodol a statws uchel yn yr iaith Gymraeg mor hawdd i’w chyrraedd â phosib o fewn gwasnaethau’r Llywodraeth ei hun wrth iddynt symud ar-lein.

“Mae’r gwelliant yn un synhwyrol sydd yn rhoi dyletswydd ar adrannau sydd heb eu datganoli yn unig, yn gadael i Lywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer materion datganoledig.

“Mae’r llywodraeth yn galw eu rhaglen o ddigideiddio yn ‘digital by default’. Dylai ‘digital by default’ hefyd olygu ‘digidol yn ddiofyn’.”

You May Also Like