Stori 2 – Ar lan y môr

Ar lan y môr gan Elin Meek

dh101014elinmeek

“Am ddiwrnod braf!” meddai Mam un amser brecwast yn ystod gwyliau’r haf. “Mae’r haul yn tywynnu’n gynnes a does dim cwmwl yn yr awyr. Mae’n rhaid i ni fynd i lan y môr heddiw, Morgan a Nia.”

“Hwrê!” gwaeddais yn llawn cyffro.

“Hwrê! Hwrê! Hwrê!” gwaeddodd Nia, fy chwaer fach, a gwneud i Mam a minnau chwerthin.

Aeth Mam i godi Nia o’r gadair uchel. “Ar ôl brecwast, beth am i ti gasglu dy bethau, Morgan?” awgrymodd Mam. “Beth sydd ei angen i fynd i lan y môr, dwed?”

“W… bwced, rhaw, tryncs nofio, tywel …” meddwn i.

“Ie, dyna ti. Ond dwi wedi meddwl am rywbeth arall, a tithau wedi dysgu nofio mor dda. Fe awn ni i’r siop fach ar y traeth i’w gael e.”

Doedd y daith yn y car ddim yn hir, ond ro’n i ar bigau’r drain eisiau cyrraedd. Am beth arall roedd Mam wedi meddwl, tybed? Gwasgais fy nhrwyn yn erbyn ffenest y car a cheisio dyfalu – tryncs newydd, pêl fawr blastig, neu beth?

O’r diwedd, daeth y môr i’r golwg.

“Dyna’r môr!” gwaeddais.

“Môr, môr, môr!” gwaeddodd Nia.

Ar ôl cyrraedd, aethon ni’n syth i’r siop fach. Roedd hi’n gwerthu pob math o bethau: bwcedi, rhawiau, tywelion a hufen iâ. Ond aeth Mam draw at y byrddau bach sy’n gallu arnofio ar y tonnau. Ac, er mawr syndod i mi, meddai hi, “Dewis yr un rwyt ti’n ei hoffi, Morgan.”

Ro’n i’n gwybod yn union pa fwrdd i’w ddewis: un glas â llun pen siarc arno. Roedd dannedd y siarc yn edrych yn finiog, finiog!

Carion ni bopeth i’r traeth a gosod ein pabell fach las. “Mae hwn yn lle da, Morgan. Dy’n ni ddim yn rhy bell o’r baneri,” meddai Mam.

“Y baneri coch a melyn?” gofynnais.

“Ie,” atebodd Mam. “Wyt ti’n cofio beth yw ystyr y baneri, Morgan?”

“Ydw,” atebais yn falch. “Mae’n saff i ti nofio rhwng y baneri coch a melyn, achos dyna lle mae’r gwarchodwyr bywyd yn gwylio.”

“Yn hollol,” meddai Mam. “Dacw nhw draw fan ’na. Coch a melyn yw lliw eu dillad nhw, hefyd. Os bydd rhywun mewn perygl yn y môr, maen nhw’n gallu mynd yn syth i helpu. Neu os bydd plentyn bach ar goll, maen nhw’n dod o hyd i Mam neu Dad.”

Ar ôl i mi newid, meddai Mam, “Rho’r tennyn y bwrdd am dy arddwrn fel nad wyt ti’n ei golli fe. Dwyt ti ddim eisiau i’r siarc nofio i ffwrdd, wyt ti?”

I ffwrdd â ni am y baneri coch a melyn. Roedd llawer o bobl yn y dŵr, rhai’n nofio, ac eraill ar eu byrddau. Roedd sŵn y tonnau, sgrechian a chwerthin hapus yn llenwi fy nghlustiau.

Rhoddais flaenau fy nhraed yn y môr. O! Roedd y dŵr yn oer. Ond mentrais yn bellach, gam wrth gam, a dal y bwrdd o’m blaen nes bod y dŵr at fy nghanol.

“Paid â mynd dim pellach nawr, Morgan!” rhybuddiodd Mam. “Aros i don ddod, a neidia ar dy fwrdd!”

Doedd dim rhaid aros yn hir.

“Ton!” gwaeddais. Arhosais i’r don godi, yna, neidiais fel fy mod yn gorwedd ar fy mol ar y bwrdd. Yna … Wiii!! Teimlais y don yn fy nghario, yn fy ngwthio ymlaen yn yr ewyn gwyn nes i’r bwrdd gyrraedd y lan. Waw! Am deimlad braf!

“Da iawn, Morgan!” gwenodd Mam. “Dwi’n mynd â Nia ’nôl nawr. Ond fe fydda i’n dy wylio di. Rwyt ti’n cofio lle ry’n ni, on’d wyt ti?”

“Ydw, yn y babell las. Ond mae’r siarc eisiau reidio’r tonnau eto!” gwaeddais.

Yn llawn cyffro, codais a rhedeg ’nôl i mewn i’r dŵr. Roedd y don nesaf hyd yn oed yn fwy, a sgrechiais yn uchel wrth gael fy nghario i’r lan. Ro’n i wrth fy modd! Dyna fel buodd hi wedyn; ton ar ôl ton ar ôl ton nes i mi flino’n lân. Roedd y siarc wedi blino hefyd!

Erbyn hyn, ro’n i’n teimlo fel cael diod boeth a brechdan. Codais y bwrdd a chwilio am y babell las. Ond doedd dim sôn amdani. Oedd Mam a Nia wedi mynd? Chwiliais y traeth . . . roedd sawl pabell arall yno . . . un goch, un â streipiau coch a glas, ond dim un las. Ble roedd Mam? Ble roedd Nia?

“O na!” meddyliais. Cydiais yn dynn yn y bwrdd. Er chwilio a chwilio, doedd dim golwg o Mam a Nia. Ro’n i’n wlyb, yn oer ac yn ofnus iawn. Yn sydyn, doedd bod ar y traeth ddim yn hwyl o gwbl.

Yna, cofiais am y baneri coch a melyn. Gwelais y gwarchodwr bywyd mewn crys melyn a throwsus byr coch. Cerddais ato i gael help.

“Dwi wedi colli Mam a Nia,” meddwn i wrth y gwarchodwr.

“Paid â phoeni,” meddai a gwenu’n garedig. “Fe rown ni neges i Mam ddod i dy nôl di nawr. Beth yw ei henw hi?”

“Bethan,” atebais. “Bethan Thomas.”

Cododd ei radio a siarad â’r gwarchodwyr eraill. Wedyn, clywais sŵn mawr yn dod o uchelseinydd a llais yn dweud, “A wnaiff Bethan Thomas ddod at y gwarchodwr rhwng y baneri coch a melyn, os gwelwch yn dda.”

“Fe ddaw hi mewn chwinciad chwannen, fe gei di weld.” meddai’r gwarchodwr.

Edrychais o’m cwmpas . . . a gweld rhywun yn rhedeg aton ni. Mam oedd hi, a Nia gyda hi!

“Dyna ti, Morgan!” meddai Mam a rhoi cwtsh fawr i mi. “Rhaid bod y tonnau wedi dy wthio draw. Un eiliad ro’t ti yno, a’r eiliad nesaf, doedd dim sôn amdanat ti. Diolch byth am y gwarchodwyr bywyd, ynte, Morgan?”

“Ie,” meddwn i, a throi at y gwarchodwr. “Diolch yn fawr i chi am ddod o hyd i Mam.”

“Fe wnest ti’r peth iawn, Morgan, yn dod ata’ i,” meddai’r gwarchodwr. “Da iawn ti.”

Cyn pen dim, ro’n ni’n tri ’nôl yn y babell las yn cael diod a brechdan.

“Am ddiwrnod cyffrous!” meddwn i wrth Mam a Nia. “Dwi wedi mwynhau, a’r siarc hefyd!”

“Siarc, siarc, siarc!” gwaeddodd Nia, a chwarddodd Mam a fi.

You May Also Like