Stori 4 – Mynd Amdani

‘Mynd amdani.’ gan Bethan Gwanas.

dh241014bethangwanasGweld Jazz Carlin yn crio wrth wrando ar Hen Wlad fy Nhadau yn y pwll nofio wnaeth o. Do’n i ddim yn nabod y ddynes a doedd fawr o bwys gen i pwy fysa’n ennill be yn Gemau’r Gymanwlad (dyna ydi Commonwealth Games yn Gymraeg meddai Dad) ond doedd ’na’m byd arall ar y teli.

Ro’n i wedi cael llond bol o glywed anthem Lloegr erbyn hynny, ac roedd gweld baner y Ddraig Goch yn sioc. Mwya sydyn, ar ganol ‘Gwlad, gwlad,’ wnes i ddechra crio wrth weld y ddynes Jazz ’ma yn crio. Ro’n i ar fy mhen fy hun, diolch byth, felly welodd Dad mohona i. Ro’n i mor falch ohoni, er nad o’n i rioed wedi’i gweld hi o’r blaen. Rhywun o Gymru yn curo pawb arall!

A dyna pryd wnes i benderfynu – dwi isio gwneud hynna. Dwi isio medal aur am fy ngwddw a chlywed Hen Wlad Fy Nhadau – a gwneud i bobol eraill grio am eu bod nhw mor falch ohona i.

11 oed o’n i, ac roedd y Gemau bob 4 blynedd… yn Awstralia fysa gemau 2018, pan fyswn i’n 15 oed. A nago’on, do’n i ddim yn rhy ifanc, roedd ’na hogan 13 oed o’r Shetlands newydd gael 3ydd am nofio.

Ro’n i wastad wedi bod yn dda am nofio. Coesau hir a breichiau cry hogyn ffarm, ond ro’n i’n byw ynghanol nunlle. Roedd gynnon ni lyn llawn hwyaid ar y ffarm, ond doedd ’na ddim pyllau nofio maint Olympic ffor ’ma mêt, dim trac athletau chwaith a dwi’n meddwl mai yn Manceinion mae’r Velodrome agosa. Doedd hi ddim yn mynd i fod yn hawdd dod yn bencampwr mewn dim, nagoedd?

Ro’n i’n dda am redeg hefyd, yn curo pawb yn yr ysgol am y 100m a’r 200, ond nath hyd yn oed Usain Bolt ddim ennill medal aur yn yr Olympics nes roedd o’n 21 oed. Mae angen tyfu cyhyrau dyn i fedru cystadlu ar y lefel yna. Felly nofio amdani.

Ond do’n i rioed wedi cystadlu am nofio, ddim hyd yn oed yn yr Urdd. Ers i Mam farw, ro’n i wastad wedi bod yn rhy brysur yn helpu Dad ar y ffarm. Dim ond pobl oedd yn perthyn i Glwb Nofio fyddai’n cystadlu go iawn. Ond ro’n i’n benderfynol, felly es i draw i’r pwll ar fy meic a rhoi fy enw i lawr.

Pan gerddais i allan o’r stafell newid yn fy nhryncs mawr coch ar y noson ymarfer, mi sbiodd pawb yn wirion arna i. Roedd y bechgyn eraill i gyd mewn tryncs bach tynn, oedd yn dangos bob dim ac yn gwisgo capiau nofio. Ro’n i’n gwybod bod dwy ferch yn chwerthin ar fy mhen i a ’nhryncs, ond stwffio nhw. Mi gerddais i at Ben, yr hyfforddwr, heb sbio arnyn nhw.

‘Hm. Mi fyddi di angen tryncs newydd os wyt ti am ddal ati efo ni,’ meddai Ben. ‘Mewn â chdi ta. Dull rhydd yn gynta, deg hyd o’r pwll, i mi gael gweld sut siâp sy arnat ti.’
Goggles mlaen, ac i mewn â fi. Es i fel trên, gan anadlu cyn lleied â phosib. Ar ôl deg hyd o’r pwll, wnes i stopio a throi i sbio ar Ben. Mi nodiodd ei ben a gwenu.
‘Ddim yn ddrwg, Dan, ddim yn ddrwg o gwbwl…’

Doedd y merched ddim yn giglan rwan, ond yn sbio arna i efo cegau fatha pysgod.
‘Iawn, genod?’ medda fi, cyn bomio i lawr y pwll eto a gwneud smonach o fy flip turn a chrafu nghefn nes ro’n i’n gwingo. Fflip go iawn.

O hynny mlaen, fues i’n nofio bob dydd. Yn y llyn dros yr haf – nes iddi fynd yn rhy oer, ac yn y pwll nofio bob cyfle gawn i. Wnes i ofyn am dryncs nofio call yn bresant pen-blwydd, a goleuadau i’r beic, achos wrth i’r haf ddiflannu, roedd hi’n dywyll erbyn i mi feicio adre, ac yn dywyll yn y bore hefyd. Roedd Dad yn rhy brysur i roi lifft i mi yn y pic yp, a do’n i’m isio gofyn chwaith.

Mi wnes i bwynt o fod y cynta i mewn i’r pwll a’r un ola i ddod allan. Os ti isio cyrraedd y top, ti’n gorfod rhoi 150%, a dyna wnes i. Ar ôl blwyddyn, roedd fy flip turns i wedi gwella’n arw – dim mwy o waldio mhen na chrafu nghefn yn erbyn yr ochr. Ac roedd nofio efo flippers wedi datblygu cyhyrau fy nghoesa i.

‘Mae gen ti goesa fatha bustach…’ meddai Dad pan welodd o fi yn fy nhrôns ar y landing un bore.

Pan ges i fy ras gynta, ddoth Dad i ngweld i. Er nad o’n i wedi arfer llawer efo starting blocks, wnes i guro’r lleill o bell, ac mi wenodd Dad a phrynu Kebab i mi cyn mynd adre.

Wnes i ennill yn chwaraeon yr Urdd yn Abertawe, a dyna pryd sylwodd un o hyfforddwyr Cymru arna i – hyfforddwr Jazz Carlin, neb llai. Wel, ro’n i’n bell o flaen y lleill wedi’r cwbl.

Mi ddywedodd bod gen i dalent, “amazing talent, actually.”

A dyma fi rwan, mewn tryncs coch, gwyn a gwyrdd yn y pwll anhygoel yma yn Queensland. Dwi wedi cyrraedd y rownd derfynol, a dwi’n gwybod bod Dad draw fan’cw ynghanol y Dreigiau Coch yn y pen draw. Maen nhw’n chwifio’n wirion wrth i fy enw i gael ei gyhoeddi:
‘Daniel Jones, representing Wales.’

Dwi’n gosod fy goggles yn eu lle ac yn dringo ar y bloc. Does gen i’m gobaith mwnci o guro’r boi sgwyddau wardrob o Awstralia, ond eto, does wybod nag oes? Yr un sydd isio fo fwya, yr un sydd â’r mwya o dân yn ei fol sy’n curo. A dwi isio hyn. Dwi isio clywed ‘Hen Wlad fy Nhadau’ a gweld Dad yn crio – am y rhesymau iawn. Pan fydd y blîp ’na’n dod, dwi’n mynd amdani.
Blîp…

You May Also Like