Stori 5 – Swyn

Syniad Swyn gan Eurgain Haf

dh311014eurgainhaf“Mae’n bleser gen i, Yr Uwch Ddewin Rhydderch y Rhyfeddod, gyflwyno’r wobr am ‘Ddisgybl Disgleiriaf y Flwyddyn’  i Swyn Ann Tomos. Llongyfarchiadau mawr iawn i ti gan bawb yn Ysgol Rhyd yr Hud.”

Cododd Swyn Ann o’i sedd i sŵn bonllefau byddarol ei chyd-ddisgyblion.  Teimlai fel petai’n troedio ar aer wrth iddi gamu i fyny’r grisiau i’r llwyfan. Hynny, nes iddi edrych i lawr ar ei hesgidiau sgleiniog du a sylwi bod adenydd wedi sbrowtio ohonynt a’i bod mewn gwirionedd yn hedfan. Yn feddyliol ac yn gorfforol. Cymaint oedd grym ei doniau hud erbyn hyn, roedd hi’n gallu troi ei theimladau yn realiti!

Dyma oedd gwireddu breuddwyd iddi. Roedd hi wedi llwyddo i ennill gwobr yng Nghystadleuaeth Calan Gaeaf yr ysgol o’r diwedd. Ac wrth iddi dderbyn y gwpan hardd gan y Prifathro Rhydderch y Rhyfeddod, ac yntau yn gwenu fel giât arni o dan ei drwyn llawn defaid, teimlai ar ben ei digon. Ond yn sydyn, wrth i’w dwylo gyffwrdd y gwpan, teimlodd y metel arian yn meddalu fel hylif ac yn anweddu. Diflannodd y gwpan. Distawodd y dorf. A deffrodd Swyn Ann!

“Swyn, brysia nei di, neu mi fyddi di’n hwyr i’r ysgol eto!” gwaeddodd ei mam o waelod y grisiau. Rhwbiodd Swyn yr Huwcyn Cwsg o’i llygaid, taflu ei gwisg ysgol amdani, clymu ei chlogyn am ei gwddf a phlanu ei het big am ei phen.

“Dyma ti cariad, dy focs bwyd gyda thocyn ychwanegol o deisen dalan poethion a moron i dy gadw’n effro yn yr ysgol yna, rhag bod dy athrawes yn cwyno dy fod yn syrthio i gysgu yn dy wersi eto,” ffysiodd ei Mam. “A chymer fenthyg fy ysgub i. Mae’n llawer cynt na dy un di.”

Erbyn i Swyn gyrraedd Ysgol Rhyd yr Hud roedd y wers gyntaf wedi dechrau. Ceisiodd sleifio at ei desg heb i neb sylwi.

“Ble ti ‘di bod?” sibrydodd Rhithwen, ei ffrind gorau. “Dwi wedi bod yn gwneud esgusodion drosto ti, ond dwi’n amau’n fawr os yw Hilda’n coelio gair.”

SLAM! Neidiodd y ddwy allan o’u crwyn wrth i law haearnaidd Hilda Hylldrem daro’r ddesg. Roedd gwythiennau coch cynddaredd wedi ymddangos ar ei chroen lliw gwsberis ac roedd ei llygaid cath gwyllt yn fflachio fel mellt.

“Swn-An, neu Swyn An-obeithiol ddylwn i ei ddweud. Pleser o’r mwyaf yw cael dy gwmni di y bore ‘ma,” hisiodd drwy’r bylchau yn ei dannedd.

“A chan dy fod mor eiddgar i drafod dy waith cartref efo dy ffrind, beth am i ti fod y cyntaf i sôn am dy syniad hudolus di ar gyfer y Cystadlaethau Calan Gaeaf,” crechwenodd yr athrawes gan lyfu ei gweflau gyda’i thafod miniog fel rasel.

Llyncodd Swyn ei phoen yn araf. Dyna’r rheswm ei bod wedi cysgu’n hwyr. Bu i fyny tan berfeddion neithiwr yn crafu ei phen am swyn addas i’w berfformio o flaen pawb ar Noswyl Calan Gaeaf. Ond ni lwyddodd i ysgrifennu gair.

Felly roedd Hilda Hylldrem yn llygad ei lle. Roedd hi’n an-obeithiol pan oedd yn fater o ddefnyddio ei doniau hud a lledrith. Mewn gair doedd ganddi ddim galluoedd goruwchnaturiol o gwbl, er mawr siom i weddill ei theulu.

Roedd ei mam, Heddys Llawfelys yn enwog i bawb am ei meddyginiaethau wedi eu gwneud o blanhigion y maes a allai wella unrhyw salwch dan haul. Ei thad, Gwyddno wedyn oedd y dyfeisydd mwyaf medrus am filltiroedd, ac roedd ei ysgubau pŵer tyrbo yn gwerthu fel slecs ar hyd a lled y byd hud a lledrith. Ond testun edmygedd mwyaf Swyn Ann oedd ei chwaer fawr, Swyn Gyfaredd. Roedd Swyn Gyfaredd wedi ennill Cwpan ‘Disgybl Disgleiriaf’ Ysgol Rhyd yr Hud bum gwaith yn olynol.  Roedd hi yn gallu darllen cyfrinachau cudd y sêr ac erbyn hyn i ffwrdd yng Ngholeg Caerhud yn astudio sêr-ddewiniaeth.

Tynnodd Swyn ei llyfr o’i bag ac agorodd y dudalen ar ei gwaith cartref.  Cipiodd Hilda Hylldrem ei llyfr a’i ddangos i bawb.  “O! Edrychwch bawb. Mae syniad Swyn Ann ar gyfer troi pethau yn anweledig mor WYCH fel ei bod wedi llwyddo i wneud geiriau ei gwaith cartref i ddiflannu oddi ar y dudalen! Ha-ha! Da iawn ti Swyn Ann,” chwarddodd yn sbeitlyd.

Y funud honno gweddïai Swyn Ann am gael bod yn anweledig. Roedd pob llygaid yn syllu arni. Gwrandawodd yn ddigalon ar syniadau pawb arall yn y dosbarth gan eiddigeddu at syniad Malan am sut i droi eira yn hufen iâ ac at ddyfais Berwyn sef beic y gallech chi ei leihau i ffitio yn eich poced. Chwarddodd pawb wrth i Myrddin egluro ei syniad am swyn a fyddai’n gallu troi pigo trwyn yn dda-da melys i’w bwyta. Ych-a-fi!

Y noson honno teimlai Swyn-Ann yn benisel iawn. Ond cododd ei chalon pan fflachiodd ei chrisial hud yn ei hystafell wely ac ymddangosodd wyneb clên Swyn Gyfaredd yn y gwydr.

“Hei chwaer fach, cwyd dy galon. Mae’r sêr a’r lleuad wedi cytuno i’n helpu ni. Felly mae angen i ti wrando’n ofalus ar yr hyn sydd gen i i’w ddweud,” meddai.

Noswyl Calan Gaeaf roedd pawb wedi ymgynnull ar iard yr ysgol. Roedd hi’n noson dywyll ac oer ond roedd pawb yn llawn cyffro i weld arddangosfa swynion dosbarth Hilda Hylldrem. Pan ddaeth tro Swyn Ann teimlai’n swp sâl. Ond clywai lais ei chwaer fawr yn adleisio yn ei phen.

“Y cyfan sy’n rhaid i ti ei wneud yw pwyntio dy hudlath at y lleuad lawn ac adrodd y geiriau yma:
Lleuad lawn, rwyt mor fendigedig,
Mewn dim o dro byddi’n anweledig.”

Felly dyna wnaeth hi. Ond ddigwyddodd ddim byd a dechreuodd pawb anesmwytho. Edrychodd Swyn Ann yn ymbilgar ar y dyn yn y lleuad a gallai daeru ei fod wedi rhoi winc slei arni. Ac yn raddol bach dechreuodd cysgod du ymledu ar draws y lleuad fel rhywun yn tynnu’r cyrten. Mewn dim o dro roedd wyneb crwn y lleuad wedi diflannu yn llwyr.

Clapiodd pawb yn uchel. Pawb ond Hilda Hylldrem. Gwyddai hi yn iawn mai diffyg ar y lleuad neu eclips roedd hi newydd ei weld. Ond sut? Doedd  yr eclips nesaf ddim i fod i ddigwydd tan y gwanwyn.

Tybed a oedd gan Swyn Ann ddoniau hud arbennig wedi’r cyfan a allai ddylanwadu ar y lleuad a’r sêr?

Drannoeth fel rhan o’r gwasanaeth boreol cyhoeddodd Yr Uwch Ddewin Rhydderch y Rhyfeddod enwau enillwyr Cystadlaethau Calan Gaeaf Ysgol Rhyd yr Hud. Ac fe gafodd Swyn Ann sioc i ddarganfod mai hi oedd enillydd y wobr am ‘Ddisgybl Mwyaf Addawol’ y flwyddyn. Dyma wireddu breuddwyd!

You May Also Like