Un o straeon mawr y byd garddio

Ystyriwch y lili, ac ystyriwch ddyn cloff o Chipping Campden.

Y lili ydy Lilium regale a’r dyn ydy Ernest Henry Wilson ac mae ei hanes o a’r lili wen o China yn un o straeon mawr y byd garddio.

Nid ar chwarae bach cafodd Ernest Wilson y llysenw ‘Chinese’ Wilson. Cafodd ei yrru i China yn 1899 gan gwmni James Veitch a’i dasg gyntaf yn y wlad bell oedd canfod a chasglu hadau’r goeden hances boced, Davidia involucrata.

I’r dyn ifanc tair ar hugain oed nad oedd wedi teithio fawr iawn pellach na Llundain cyn hynny roedd yr antur yma’n gychwyn cyfnod fyddai’n cysylltu ei enw efo de ddwyrain Asia am byth.

Erbyn diwedd ei yrfa roedd wedi canfod a chyflwyno miloedd o blanhigion, a bu bron iddo golli ei fywyd yng ngheunant serth yr afon Min.

Yno ym mis Mehefin 1910 gwelodd Wilson y lili fawr wen yn tyfu yn ei chynefin gwyllt am y tro cyntaf.

Er ei fod eisoes wedi gweld cymaint o ryfeddodau botanegol mae’n debyg bod yr olygfa wedi ei gyfareddu’n llwyr.

Ceir cofnod yn ei ddyddiadur am y degau o filoedd o flodau, pob un yn drwmped lliw gwin oddi allan ac yn glaer wyn a melyn oddi mewn.

Disgrifia’r paill euraidd ar yr antherau, y sawr melys ar awel y bore a’r wefr fyrhoedlog o weld y tir cras yn wlad y tylwyth teg.

Wedi’r telynegu cychwynnwyd ar y gwaith o farcio lleoliad chwe mil o’r planhigion er mwyn codi’r bylbau yn yr hydref.

Gorffennwyd y gwaith marcio erbyn y 3ydd o Fedi a phenderfynodd Wilson ddathlu’r achlysur trwy gael ei borthorion i’w gludo yn ei gadair sedan ar hyd un o lwybrau serth y dyffryn.

Cofnodir yn ei ddyddiadur ei fod wedi cychwyn y daith yn hwyliog a’i galon yn llawn cân, ond byr fu ei lawenydd.

Roedd llechweddau dyffryn afon Min yn nodedig o ansefydlog a bu ond y dim i Wilson a’i gi, ei gadair a’i borthorion gael eu claddu dan dirlithriad enbyd.

Cafodd ei goes dde ei chwalu gan dalp o graig ac mae’n disgrifio’r boen fel gwifren boeth yn serio’i gnawd.

Er gwaetha’i boen fe lwyddodd Wilson i gyfarwyddo ei borthorion i ddefnyddio trybed ei gamera i gynnal ei goes.

Bu’n rhaid iddo orwedd yn ei unfan wedyn tra bu’r mulod pwn yn camu trosto.

Dywed nad oedd wedi sylweddoli cyn hynny pa mor fawr oedd carn mul.

Cafodd Ernest Wilson ei gario am dridiau gan ei borthorion ffyddlon i ysbyty yn Chengdu.

Erbyn hynny roedd ei glwyfau yn llidiog a bu ond y dim iddo golli ei goes.

Llwyddodd llawfeddyg o’r enw Dr. Davidson i arbed ei goes ond bu’n gloff am weddill ei fywyd.

Er gwaetha hyn i gyd mi gafodd y bylbau ei codi, eu gorchuddio fesul un efo haen o fwd yr afon, eu pacio mewn cistiau te a’u gyrru i Brydain.

Cafodd garddwyr drysor o blanhigyn a chafodd Ernest Wilson y cloffni gafodd ei alw’n ‘lilly limp’ am weddill ei oes.

Y tro creulon yng nghynffon hanes bywyd Ernest Wilson ydy iddo fo a’i wraig Helen gael eu lladd mewn damwain car yn America yn 1930.

You May Also Like