Y goeden a ‘blygodd’ ffordd osgoi newydd yn cipio gwobr Coeden Gymreig y Flwyddyn

Mae Derwen Brimmon, y goeden hynafol a arweiniodd at ddargyfeirio ffordd osgoi newydd Drenewydd rhai metrau er mwyn osgoi ei dinistrio, wedi cael ei choroni’n Goeden Gymreig y Flwyddyn yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Mae’r coed buddugol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd wedi cael eu datgelu mewn rhaglen ddogfennol ar  Sianel Pedwar y DU a gyflwynir gan Ardal O’Hanlon. Bwriwyd  dros 18,000 o bleidleisiau i ddewis y coed hyn.

Ar ben hynny, fe bleidleisiodd y beirniaid yn y rhaglen i enwi Derwen Brimmon fel goruwch bencampwr y pedair coeden fuddugol.

Rhoddwyd 28 o goed ar restrau byrion ar draws y pedair gwlad i ddathlu’r amrywiaeth anhygoel o goed arbennig trwy’r DU, mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Goed Cadw ac a gefnogwyd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Fe fydd pob un o’r pedwar enillydd yn awr yn cynrychioli ei gwlad yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn sy’n cael ei chynnal ym mis Chwefror.

Fe fydd y coed buddugol hefyd yn derbyn grant gofal o £ 1,000 y gellir ei ddefnyddio tuag at eu cynnal, creu deunyddiau dehongli neu hyd yn oed cynnal dathliad.

Roedd Derwen Brimmon yn un o chwe choeden Gymreig ar y rhestr fer, ynghyd â Derwen Hwyl, yn Hafod y Llan, Beddgelert yng Ngwynedd, Derwen Gregynog yn Nhregynon, Powys, Castanwydden Bêr Bodnant yng Ngerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy, Derwen y Castell Oak, ym Mharc Dinefwr, ger Llandeilo, a Derwen Cwm yr Esgob Oak, ger Rhaeadr Gwy.

Mae manylion yr holl goed i’w gweld ar dudalen http://www.woodlandtrust.org.uk/visiting-woods/tree-of-the-year/cymru/

Y coed buddugol

Cymru

Derwen Brimmon Oak, Y Drenewydd, Powys: Fe fu’r dderwen fawr hon, gyda chylchfesur o  dros 6m, yn y penawdau yn 2009 pan gyhoeddwyd cynlluniau i’w thorri i wneud lle ar gyfer Ffordd Osgoi Y Drenewydd a gynlluniwyd.

Fe wrthwynebodd Mervyn Jones, y tirfeddiannwr, y cynlluniau gan fod ei deulu wedi gwerthfawrogi’r goeden ers cenedlaethau. Wedyn, fe gytunodd y peirianwyr i  symud y goeden, ond doedd Mr Jones ddim yn fodlon, gan y byddai hyn yn debyg o arwain at ei thranc.

Yna, cytunodd y peirianwyr i symud y llwybr ychydig, ond fe fyddai’n dal yn pasio o fewn 3.5m o’r goeden ac yn bygwth ei wreiddiau.

Felly, fe gomisiynodd Mr Jones adroddiad arbenigol ei hun a rhoi tystiolaeth yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus am ddwy awr. Gyda chymorth yr ymgyrchydd coed Rob McBride, lansiodd ymgyrch Facebook i newid llwybr ffordd osgoi i achub y goeden.

Fel canlyniad, fe arwyddodd tua  5,000 o bobl ddeiseb i’r Cynulliad i’r perwyl hwn. Yn y pendraw, fe gytunodd Llywodraeth Cymru i amrywio’r llwybr dipyn bach mwy yn y gobaith o achub y goeden. (565 o 1,772 o bleidleisiau)

Lloegr

Masarnen y Bwlch, Mur Hadrian, Swydd Northumberland:  Dyma un o’r coed yn y DU sy’n ymddangos mewn lluniau yn amlaf. Mae’n tyfu mewn bwlch dramatig wrth ochr Mur Hadrian. Mae’n fwyaf enwog am ymddangos yn y ffilm Robin Hood Prince of Thieves yn 1991. (2,542 o 11,913 o bleidleisiau)

Yr Alban

Coeden Ding Dong coed, Ysgol Gynradd Prestonpans, East Lothian: Dywed Pennaeth Ysgol Gynradd Prestonpans fod y ffawydden gopr gymaint yn rhan o fywyd yr ysgol fel ei bod yn cael ei hystyried fel aelod ychwanegol o staff, bron.

Mae’r enw “Ding Dong” yn dod o gêm o tig ddyfeisiwyd gan y disgyblion sy’n cystadlu i gyffwrdd ei boncyff gan weiddi “Ding Dong!”

Mae canopi amddiffynnol y goeden yn gwneud ystafell ddosbarth awyr agored ddelfrydol, ac mae’n dod â thawelwch arbennig i blant sydd ag emosiynau cymhleth.

Y tu mewn i’r adeilad mae yna arddangosfa galendr yn dangos lluniau o’r goeden trwy gydol y flwyddyn ynghyd â chyflawniadau disgyblion ac adegau mwyaf cofiadwy o ddysgu.

Mae plant yn hongian bwydwyr adar o’r canghennau ac mae’n destun llawer o brosiectau gwyddoniaeth a chelf. Mae’r goeden Ding Dong wedi bod yn annwyl gan genedlaethau o ddisgyblion, ac wedi dod yn ganolog i fywyd a hunaniaeth yr ysgol, gan ymddangos ar y faner ei wefan. (1,023 o 2,671 o bleidleisiau)

Gogledd Iwerddon

The Holm Oak, Parc Rostrevor: Yn sefyll ar y chwith, yn union y tu mewn i’r brif fynedfa’r Fairy Glen i Barc Kilbroney, mae’r dderwen fytholwyrdd wych hon ac wedi bod yn annwyl gan genedlaethau lawer o bobl Rostrevor.

Mae ganddi gylchfesur o 3.6 metr gyda rhisgl nodweddiadol tebyg i groen neidr.

Mae’n dderwen nodedig oherwydd fod y boncyff yn tyfu ar osgo o 45o, ond yn anffodus mae un o’r brigau enfawr wedi dod yn hynod o drwm gan ei fod e mor hen, ac mae e bellach angen rhywfaint o gymorth.

Mae Parc Kilbroney yn gartref i lawer o goed rhyfeddol, ond y goeden hon gafodd ei dewis yn unfrydol fel ffefryn gan aelodau o’r grŵp cymunedol lleol. (1,192 o 2,280 o bleidleisiau)

Dywedodd Beccy Speight, Prif Weithredwr Coed Cadw: “Mae coed yn ein hysbrydoli mewn cymaint o ffyrdd ac mae ein pedwar enillydd yn dangos yn glir sut rydym yn gwerthfawrogi’r tirnodau naturiol hyn.

“Maent yn atalnodi ein bywydau a thirweddau ac yn ein cysylltu ni â’n gorffennol, yn debyg i’n hen adeiladau gorau ni, ond yn wahanol iddyn nhw, heb warchodaeth arbennig, hyd yn hyn.”

Fe ychwanegodd Annemiek Hoogenboom, cyfarwyddwr y People’s Postcode Lottery: “Rydym yn falch iawn i gefnogi Coed Cadw a rhoi cyfle i gymunedau ddathlu’r coed gwych hyn ac yn gofalu amdanynt ymhell i’r dyfodol.”

Mae Ymgyrch V.I.Trees gan Coed Cadw yn ceisio creu cofrestr ar gyfer Coed o Ddiddordeb Arbennig Cenedlaethol ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae dros 9,000 o bobl wedi cefnogi’r alwad hyd yn hyn. Am fwy o wybodaeth ewch http://www.woodlandtrust.org.uk/campaigning

Llun: Derwen Brimmon (gan Tracey Williams)

You May Also Like